Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Craffu Cyffredinol ar bortffolio’r Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

1.    Mae’r papur hwn yn nodi rhai o’m blaenoriaethau a’r camau yr wyf wedi’u cymryd yn ddiweddar mewn perthynas â’m portffolio, cyn i mi ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 20 Tachwedd.

 

2.    Mae papur manwl ar wahân wedi’i gyflwyno ar ein Rhaglen Dileu TB buchol.

 

Parodrwydd am Brexit

 

3.    Mae Brexit wedi bod ar frig blaenoriaethau fy mhortffolio ers mwy na thair blynedd bellach.

 

4.    Fel yr wyf wedi’i ddweud sawl gwaith, byddai gadael yr UE heb gytundeb yn cael effaith drychinebus hirdymor ac uniongyrchol ar gymunedau gwledig. Rwy’n hyderus ein bod wedi gwneud, ac yn parhau i wneud, popeth o fewn ein gallu i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb.

 

5.    Ar hyn o bryd mae gan fy mhortffolio gyfres o brosiectau Parodrwydd am Brexit ar y gweill (74), a chaiff nifer sylweddol o’r rhain eu rhoi ar waith trwy’r DU. Rwyf wedi bod yn olrhain cynnydd y rhain yn rheolaidd, a chyda fy nghydweithwyr rwyf wedi bod yn llunio adroddiadau ar gyfer Is-bwyllgor Cabinet y Prif Weinidog ar Ymadael â’r UE.

 

6.    Roedd mwyafrif y prosiectau a oedd yn paratoi ar gyfer senario ‘dim cytundeb’ ar y trywydd iawn ar gyfer gadael ar 31 Hydref. Bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda Defra a gweinyddiaethau eraill y DU i gwblhau gweddill y prosiectau, rhag ofn y bydd eu hangen ym mis Ionawr. Rydym yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gael eglurhad ynghylch maint y gyllideb ychwanegol a fydd ar gael i helpu i reoli canlyniad ‘Dim Cytundeb’.

 

7.    Mae’r prosiectau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau ac anghenion, yn cynnwys sefydlu systemau rheoleiddio a gweithredol newydd, yn ogystal â chynllunio wrth gefn. Fe fyddai’r systemau’n darparu system llinell sylfaen weithredol y gellid ei rhoi ar waith ar ddiwrnod 1.

 

8.    Ymhellach, mae nifer o brosiectau ar waith sy’n effeithio ar ba un a fyddwn yn gadael gyda chytundeb neu heb gytundeb, yn cynnwys sefydlu safbwyntiau ar bolisïau yn y dyfodol a threfniadau llywodraethu ledled y DU yn y dyfodol, er enghraifft yn y meysydd masnach, yr amgylchedd, rheoli tir, y môr a physgodfeydd.

 

9.    Ar y cyd â gweinyddiaethau ar draws y DU, rydym hefyd wedi llunio cynlluniau wrth gefn ar gyfer sectorau ar draws fy mhortffolio, ac wedi’u profi er mwyn sicrhau bod mesurau lliniaru priodol mewn lle ar gyfer diwrnod un, yn cynnwys defaid, pysgodfeydd, dŵr a bwyd. Bydd y rhain yn parhau i gael eu hadolygu wrth i’r dyddiad gadael newid, er mwyn ystyried y goblygiadau tymhorol.

 

10. Yn y cyfamser, bydd y DU yn trafod cytundeb masnach newydd gyda’r UE a Thrydydd Gwledydd – hwn fydd ein prif ganolbwynt wrth symud ymlaen. Ymhellach, fe fydd yna sialensiau mawr o ran ein capasiti a’n gallu. Bydd mwy na 7,000 o swyddogaethau’n dychwelyd i Lywodraeth Cymru o Frwsel – y rhan fwyaf yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

 

Yr Argyfwng Hinsawdd

 

11. Ym mis Mai 2019, y Cynulliad Cenedlaethol oedd y Senedd gyntaf trwy’r byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers hynny, rydym wedi datgan buddsoddiad pellach gan y Llywodraeth ac wedi cyhoeddi cyfres o gynigion polisi pwysig, a fydd yn sicrhau bod buddsoddiad yn canolbwyntio o’r newydd ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.

 

12. Rydym wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i gynyddu targed Cymru ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2050 i 95%, a byddwn yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ymgorffori hyn mewn cyfraith y flwyddyn nesaf. Ymhellach, rydym wedi cyhoeddi ein huchelgais i weithio gyda Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu targed sero net mwy uchelgeisiol, gan fynd ymhellach na Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau eraill y DU.

 

13. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel. Mae’n cynnwys 100 o bolisïau a chynigion ar draws pob Portffolio Gweinidogol ar gyfer cyflawni’r gyllideb garbon gyntaf (2016-2020) ac, o ganlyniad, targed interim 2020.

 

https://gweddill.llyw.cymru/topics/environmentcountryside/climatechange/emissions/prosperity-for-all-a-low-carbon-wales/index1b1b.html?force=cy

 

14. Ym mis Hydref aethom ati i gynnal cynhadledd newid hinsawdd mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Daeth 300 o bobl at ei gilydd, yn cynnwys arweinwyr busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Fel rhan o’r gynhadledd, dechreuodd sefydliadau wneud addewidion i gymryd camau gyda ni i ymuno â’r ymateb ar y cyd i’r argyfwng hinsawdd.

 

15. I gyd-fynd â’r gynhadledd, aethom ati i nodi rhai o’r pethau yr ydym yn eu gwneud i daclo’r newid yn yr hinsawdd.

 

https://llyw.cymru/beth-mae-llywodraeth-cymru-yn-ei-wneud-i-daclor-newid-yn-yr-hinsawdd

 

16. Yn ein tyb ni, dyma fan cychwyn ar gyfer cyfraniad Cymru at Gynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP 26) a gynhelir yn Glasgow yn 2020 a chyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Cymru Gyfan yn 2021. Rydym wedi addo dod â phobl at ei gilydd eto y flwyddyn nesaf oddeutu’r un amser â COP26 i rannu’r hyn mae Cymru yn ei wneud gyda’r byd.

 

17. Taclo newid hinsawdd yw fy mlaenoriaeth gyffredinol, ac mae mwyafrif y gweithgareddau y cyfeirir atynt yn y papur hwn yn ymwneud â’r flaenoriaeth hon.

 

Cynllun Aer Clir

 

18. Rydym wrthi’n llunio Cynllun Aer Clir ar gyfer Cymru a fydd yn cynorthwyo i gyflawni ymrwymiad Ffyniant i Bawb – sef lleihau allyriadau a chyflwyno gwelliannau hollbwysig i ansawdd yr aer er mwyn cael cymunedau iachach ac amgylcheddau gwell.

 

19. Bydd y Cynllun yn pennu sut byddwn yn cydweithio ar draws y Llywodraeth a gwahanol sectorau, gan ddwyn ynghyd ymrwymiadau presennol a chamau gweithredu newydd er mwyn gwella ansawdd yr aer. Ymhellach, bydd y cynllun yn esbonio sut mae polisïau ansawdd aer yn cydweddu â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru, a’r blaenoriaethau a’r egwyddorion y byddwn yn eu rhoi ar waith wrth gyflawni’r Cynllun.

 

20. Byddwn yn ymgynghori ynghylch y Cynllun drafft yn ystod mis Rhagfyr 2019, gyda golwg ar gyhoeddi’r Cynllun terfynol yn gynnar yn 2020.

 

Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

 

21. Yn achos ffermio, yr unig beth mae angen i ni ei wneud er mwyn gweld effaith Newid Hinsawdd yw edrych ar y gaeafau gwlypach a’r hafau sychach yr ydym wedi’u cael yn ddiweddar. Ceir pwysau hefyd ar ein bioamrywiaeth, ac o ran sicrhau ansawdd cyffredinol ein hamgylchedd, ein dŵr a’n haer. Dyma bethau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru, ac unwaith eto mae ffermio’n hollbwysig o ran sicrhau dyfodol cynaliadwy.

 

22. I’r perwyl hwnnw, daeth ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir i ben ar 30 Hydref. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn coladu ac yn dadansoddi nifer terfynol yr ymatebion – cafwyd mwy na 2,000 o ymatebion i gyd.

 

23. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn lansio rhaglen gyd-lunio er mwyn ymgysylltu mwy â’r sector ffermio. Bydd unrhyw gamau a gaiff eu cymryd wedyn yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a datblygiadau’n ymwneud â Brexit.

 

24. Ar ôl i Lywodraeth y DU ryddhau mwy o wybodaeth am gytundebau masnach yn y dyfodol a’r ffordd y caiff y gyllideb ei dyrannu, bydd modd i ni gwblhau’r gwaith modelu angenrheidiol. Byddwn yn gwneud hyn cyn i’r broses ymgynghori hon ddod i ben a chyn i drefniadau cymorth newydd gael eu rhoi ar waith.

 

25. Bydd llawer o ffermwyr yn ddibynnol ar gymorth yn y dyfodol, ac rydym ni’n ddibynnol ar gael ffermwyr i gyflawni nifer o’r canlyniadau yr ydym yn ceisio eu sicrhau. Fy nymuniad yw i ffermwyr fod wrth galon a chraidd y drafodaeth hon.

 

Llygredd Amaethyddol

 

26. Mae tystiolaeth eang i’w chael sy’n ategu’r angen i gymryd camau i daclo llygredd amaethyddol ar draws Cymru. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) (2016) yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol a gaiff llygredd amaethyddol trwy Gymru i gyd. Mae ymgynghoriad presennol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ‘Heriau a Dewisiadau’ yn cadarnhau ymhellach mai llygredd amaethyddol yw un o’r prif resymau pam mae cyrff dŵr yn methu â chyrraedd y safonau. Mae’r ymgynghoriad yn rhestru 113 o gyrff dŵr lle mae llygredd amaethyddol gwasgaredig yn cyfrannu at eu methiant i gyrraedd safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

 

27. Ymhellach, mae arferion amaethyddol gwael yn gadael rhannau o’n hafonydd yn amddifad o bysgod. Rhaid i’n cymunedau gwledig, sy’n dibynnu ar dwristiaeth, pysgota a diwydiannau bwyd, gael eu gwarchod. Hefyd, rhaid i ni warchod yr 80,000 o bobl yng Nghymru sy’n dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat.

 

28. Mae gwella’r ffordd y caiff maetholion eu rheoli yn hanfodol er mwyn lleihau lefelau llygredd. Ar sail y rhesymau hyn, rwyf wedi cynnig y dylid cael rheoliadau ar draws Cymru i daclo llygredd amaethyddol. Yn ogystal â darparu llinell sylfaen ar gyfer taclo llygredd amaethyddol, cydnabyddir y gallai rheoliadau trwy Gymru i gyd helpu i gwrdd ag amcanion allweddol eraill yn ymwneud ag ansawdd yr aer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

29. Dylai ffermydd sy’n gweithredu’n ôl y safonau arferion gorau a hyrwyddir trwy ddulliau gwirfoddol lwyddo i gwrdd â’r rheoliadau sylfaenol yn rhwydd. Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ddibynnol ar ganlyniad Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r holl dystiolaeth sydd ar gael. Y bwriad yw i’r rheoliadau fod yn berthnasol i bob daliad o fis Ionawr 2020, gyda chyfnodau pontio ar gyfer rhai elfennau er mwyn rhoi amser i ffermwyr addasu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Plannu Coed

 

30. Rydym yn cydnabod nad oes digon o goed yn cael eu plannu ar hyn o bryd, ac rydym yn sylweddoli bod cynyddu’r gorchudd coetir yn hollbwysig er mwyn sicrhau diwydiant coedwigaeth llewyrchus, gwrthbwyso allyriadau carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

 

31. Cafodd Coetiroedd i Gymru, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a choed, ei diwygio yn 2018. Yn awr, mae’n anelu at gael cynnydd o 2,000 hectar o leiaf yn y gorchudd coetir bob blwyddyn o 2020 ymlaen. Ymhellach, dylai’r gorchudd coed yn yr amgylchedd ehangach gynyddu – ar ffermydd, mewn mannau gwledig, ac mewn/o amgylch trefi a dinasoedd.

 

32. Bydd ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog ar gyfer Coedwig Genedlaethol newydd yn helpu i ategu nodau Coetiroedd i Gymru, yn ogystal â blaenoriaethau’n ymwneud â bioamrywiaeth, coedwigaeth fasnachol, adeiladu, cydlyniant ac adfywio cymunedol, ac iechyd a llesiant. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut mae modd elwa i’r eithaf ar y buddion economaidd ac amgylcheddol hyn, a bydd yn gweithio ar y cyd â’r sector cyhoeddus a phartneriaid eraill i nodi safleoedd a ffefrir ar gyfer plannu coed a chynnal prosiectau arddangos posibl y flwyddyn nesaf.

 

33. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwrw ymlaen â rhaglen ambarél Creu Coetiroedd. Mae hon yn cynnwys rhaglenni sy’n bodoli eisoes, fel Plant! a chymorth ar gyfer Cynllun Creu Coetir Glastir, yn ogystal â phrosiectau newydd ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru, fel plannu coed i wneud iawn am golledion oherwydd cynlluniau ffermydd gwynt, ac ymestyn Ystad Goed Llywodraeth Cymru trwy gaffael tir. Mae gwaith ar droed i ddatblygu dulliau llywodraethu a dogfennaeth ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â chynlluniau prosiect penodol ar gyfer yr elfennau newydd.

 

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol – Strategaeth Genedlaethol Newydd

 

34. Ar 24 Mehefin lansiais ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 16 Medi, ac yn awr mae fy swyddogion wrthi’n dadansoddi’r ymatebion gyda golwg ar gyhoeddi’r Strategaeth derfynol yn 2020. Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy na £350 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod oes y Llywodraeth hon.

 

35. Ym mis Mehefin 2019 tynnais sylw at gyhoeddi Canllawiau Arfarnu Prosiectau newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’r canllawiau hyn yn cynnig arweiniad ar arferion da’n ymwneud ag arfarnu rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a llunio Achosion Busnes ar gyfer penderfyniadau buddsoddi yng Nghymru.

 

Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

 

36. Ers 7 Ionawr 2019, mae wedi bod yn ofynnol i bob datblygiad newydd yng Nghymru sy’n cynnwys mwy nag un tŷ neu sy’n 100 metr sgwâr neu’n fwy fod â System Ddraenio Gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr wyneb. Rhaid i Systemau Draenio Cynaliadwy gael eu cynllunio a’u hadeiladu’n unol â’r safonau SuDS statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

 

37. Cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn rhaid i gynlluniau Systemau Draenio Cynaliadwy gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol – a fydd yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SuDS. Bydd gan y Corff Cymeradwyo hwn ddyletswydd i dderbyn Systemau Draenio Cynaliadwy sy’n cydymffurfio â’r rheolau, cyn belled ag y byddant yn cael eu hadeiladu ac yn gweithio’n unol â’r cynigion a gafodd eu cymeradwyo, yn cynnwys unrhyw amodau a bennwyd gan y Corff Cymeradwyo.

 

38. Bydd y cynnydd yn nifer y Systemau Draenio Cynaliadwy yn hollbwysig – nid yn unig o ran gwarchod ein hamgylchedd a hyrwyddo bioamrywiaeth, ond hefyd o ran addasu i newid hinsawdd a’n gallu i wrthsefyll perygl llifogydd.

Y Môr a Physgodfeydd

 

39. Rydym wedi bod wrthi’n cwblhau ein paratoadau ar gyfer mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru. Dyma benllanw llawer iawn o waith, a bydd yn arwain am y tro cyntaf at gael dull clir, sy’n dilyn cynllun, ar gyfer rheoli datblygiad cynaliadwy ein moroedd.

 

40. Ymhellach, rwyf wedi lansio’r Strategaeth Tystiolaeth Forol gyntaf, a ddatblygwyd ar y cyd â CNC. Bydd y Strategaeth hon yn ategu darpariaeth tystiolaeth forol ar gyfer gweithredu, monitro a gwerthuso polisïau a chynlluniau morol Llywodraeth Cymru a CNC. Ein nod yw adfer a gwarchod bioamrywiaeth y môr, hyrwyddo defnydd cynaliadwy o’r môr, amddiffyn ein harfordiroedd a gwella ein cymunedau arfordirol.

 

41. Gan fod y maes polisi hwn wedi’i blethu i’r fath raddau â rheoliadau Ewropeaidd, mae Brexit wedi dylanwadu’n fawr ar waith yn y maes polisi hwn. Rydym wedi mynd ati i roi cynlluniau ac adnoddau ar waith i sicrhau y gallwn barhau i orfodi ein pysgodfeydd ar ddiwrnod un, yn cynnwys lliniaru effeithiau gadael heb gytundeb. Ymhellach, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru a’r DU i sicrhau bod busnesau pysgodfeydd yn deall yr hyn mae angen iddynt ei wneud er mwyn parhau i fasnachu – rydym wedi rhoi systemau a phrosesau newydd ar waith pan fo modd, ynghyd â gweithio ar gynllun cymorth wrth gefn i helpu pysgotwyr i ymdopi â’r newidiadau.

 

42. Wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, rwyf wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu Polisi Pysgodfeydd yn y Dyfodol, ar y cyd â rhanddeiliaid. Bûm yn gysylltiedig ag ymgynghoriad Brexit a’n Moroedd dros yr haf, sef y cam cyntaf mewn trafodaeth hirach ynghylch dyfodol y diwydiant pysgota, a byddaf yn cyflwyno datganiad yn yr hydref.

 

Cynllun Gweithredu Bwyd

 

43. Ar 23 Gorffennaf, lansiais ymgynghoriad yn ymwneud â chynigion ar gyfer dyfodol y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Hydref 2019. Cafwyd 81 ymateb i’r ymgynghoriad.

 

44. Rydym eisiau adeiladu ar lwyddiannau’r Strategaeth Bwyd a Diod flaenorol a’i Chynllun Gweithredu. Yn 2018, llwyddodd y diwydiant i gael trosiant o £6.8 biliwn yn erbyn targed o £7 biliwn erbyn 2020.

 

45. Roedd y papur ymgynghori’n nodi tri nod strategol: tyfu ein busnesau; bod o fudd i’n pobl a’n cymdeithas; a chreu a chyfathrebu enw da ar draws y byd i Gymru fel Cenedl Fwyd.

 

46. Mae’r dasg o ddadansoddi’r ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd. Bydd ymateb cryno’n cael ei gyhoeddi maes o law fel rhan o’r broses arferol.

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tachwedd 2019